|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
Mai 18 2005 SUT I DEITHIO I EISTEDDFOD YR URDD 2005 `Mwynhewch eich amser yng Nghaerdydd ond cynlluniwch eich siwrnai’n ofalus, ceisiwch osgoi teithio’n ystod yr oriau prysuraf, ceisiwch gyrraedd yn gynnar a defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus neu rhannwch geir pan fo hynny’n bosibl os gwelwch yn dda’. Dyma gyngor Cyngor Dinas Caerdydd i’r rhai fydd yn teithio i Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Canolfan Mileniwm Cymru 2005. Bydd yr arddangosfa ffantastig hon o gelfyddyd a cherddoriaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd o Mai 30 - Mehefin 4. Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru ac un o’r rhai mwyaf yn Ewrop. Mae gan y mudiad dros 50,000 aelod rhwng 8 a 25 oed; mae dros 25% o blant 10 oed Cymru a 30% o’r siaradwyr Cymraeg rhwng 8 a 18 oed yn aelodau. Yn yr Eisteddfod eleni, bydd rhaglen lawn o gystadlaethau ac atyniadau yn digwydd rhwng 11yb a 5yh bob dydd ac ambell i gyda’r nos. Cyfeiriad y wefan yw www.urdd.org. Bydd angen i’r miloedd o bobl ifanc a’u teuluoedd y gobeithir eu croesawu i’r ŵyl gynllunio eu taith yn brif ddinas yn ofalus iawn gan fod Dydd Llun Gyl y Banc yn cyd-daro â gemau ail-gyfle FA Coca Cola yn Stadiwm y Mileniwm. Bydd ffyrdd canol dinas Caerdydd i gyd ar gau o amser cinio ymlaen a byd ffyrdd ar gau hefyd o amgylch CMC ac ym Mae Caerdydd trwy’r dydd. Disgwylir i gyfanswm y niferoedd fydd yn mynychu’r Eisteddfod a’r gemau pêl-droed ddod yn agos at nifer y cefnogwyr a ddaeth i Gaerdydd ar gyfer gêm camp lawn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Cymru v Iwerddon. Y cyngor gorau ar sut i deithio i Gaerdydd yw i deithio ar fws neu drên. Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael ar Traveline Cymru ar 0870 608 2 608 neu gyfeiriad y wefan yw www.traveline-cymru.org.uk. Mae Cardiff Bus yn cynnig rhwydwaith drafnidiaeth hollgynhwysol led led y ddinas gyda chysylltiad o Orsaf Fysiau Canol Caerdydd i rannau eraill o Gaerdydd ac i bob cwr o’r DU. Gan for Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd hefyd yn gartref i brif orsaf drenau Caerdydd, bydd trenau’n rhedeg oddi yma ar deithiau lleol, led led Cymru a rhwydweithiau eraill led led Prydain. Gall pob un sy’n teithio i’r Eisteddfod ar drên ddefnyddio eu tocyn o Orsaf Canol Caerdydd – ddwy ffordd – ar fws Blue Bay Express rhif 6 sy’n rhedeg bob 10 munud o gefn yr orsaf am ddim. Ymhellach, mae gwasanaethau trenau uniongyrchol ar gael i Fae Caerdydd o Orsaf Ddrenau Queen Street Caerdydd. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau trenau ar wefan Arriva; www.arrivatrainswales.co.uk I’r rhai fydd yn teithio i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda char, y cyngor gorau yw ceisio rhannu ceir am mai dim ond nifer cyfyngedig o lefydd parcio sydd ar gael yn agos i Ganolfen Mileniwm Cymru. Bydd y mannau parcio rhain wedi eu harwyddo o’r Peripheral Distribution Road (PDR) / A4232 ring road ar ôl twnnel Butetown. Bydd gwasanaeth ‘Park and Ride’ yn rhedeg o Leckwith (o ddydd Mawrth Mai 31 i ddydd Gwener Mehefin 3) o 9.30yb hyd at 6yh, wedi ei arwyddo o’r A4232. Y mannau codi a gollwng fydd y Flourish wrth ymyl mynedfa’r Eisteddfod. Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael yn y wasg leol a’r cyfryngau a hefyd ar wefan Traffic Wales y Cynulliad Cenedlaethol: www.traffic-wales.com. (Diwedd) Swyddog y Wasg Cyngor Dinas Caerdydd: Saska Shepherd Ffôn: 02920 872966 Ebost: sshepherd@cardiff.gov.uk
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |